Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Zoom

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 3 Chwefror 2021

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
11177


321

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gyda’r Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Dechreuodd yr eitem am 13.30 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Dechreuodd yr eitem am 14.16 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Ni chyflwynwyd unrhyw Gwestiynau Amserol. 

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.15 

Gwnaeth David Rees ddatganiad am - Diwrnod Canser y Byd (4 Chwefror). 

Gwnaeth Helen Mary Jones ddatganiad am - JonnyClayton, y Cymro Cymraeg oBontyberem, yn Feistr y byd dartiau. 

Gwnaeth Andrew RT Davies ddatganiad am - Teyrnged i’r Capten Syr Tom Moore. 

</AI5>

<AI6>

5       Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Clyw fy nghân: Ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw

Dechreuodd yr eitem am 15.21 

NDM7575 Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)  

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Clyw fy nghân: ymchwiliad i’r diwydiant cerddoriaeth fyw, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2020. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

</AI6>

<AI7>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig

Dechreuodd yr eitem am 15.50 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: 

NDM7581 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)  

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cofnodi 37,403 o farwolaethau yng Nghymru yn 2020. 

2. Yn cydnabod effaith y pandemig COVID-19 ar y rhai sy'n darparu gofal diwedd oes a'r rhai sydd â salwch angheuol a'u hanwyliaid, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau'r coronafeirws ar ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal. 

3. Yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol gofal lliniarol o ansawdd uchel a gwasanaethau cymorth profedigaeth o dan amgylchiadau o'r fath. 

4. Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol Nyrsys Cymru o ran nyrsys yn bod yn flinedig, o dan straen a bron wedi'u gorweithio'n llwyr oherwydd y pandemig a'r pwysau ychwanegol o ddarparu gofal diwedd oes. 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: 

a) parhau i adolygu'r canllawiau sy'n gysylltiedig ag ymweliadau ag ysbytai, hosbisau a chartrefi gofal, fel bod teuluoedd a gweithredwyr yn gallu galluogi cyswllt diogel a thosturiol yn ystod gofal diwedd oes; 

b) sicrhau bod y rhai sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, yn ogystal â'u hanwyliaid, yn gallu cael gafael ar ofal a chymorth emosiynol o ansawdd uchel; 

c) cynyddu'n sylweddol y cymorth ariannol ar gyfer gofal lliniarol a gwasanaethau cymorth profedigaeth yn y flwyddyn ariannol nesaf i ddiwallu'r anghenion cynyddol a mwy cymhleth sy'n deillio o'r pandemig; 

d) gweithredu cynllun hirdymor i gefnogi nyrsys a staff gofal i ddelio â straen wedi trawma a materion iechyd meddwl a achosir gan y gofyniad cynyddol am ofal lliniarol. 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

 41

0

12 

53

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Plaid Cymru – Cyllido'r Llyfrgell Genedlaethol

Dechreuodd yr eitem am 16.23 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: 

NDM7580 Sian Gwenllian (Arfon)  

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn gresynu at y ffaith y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cael ei gorfodi i dorri swyddi a chwtogi'n ddifrifol ar wasanaethau heb fwy o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu ar frys y cyllid annigonol a ddyrannwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 a darparu setliad ariannu cynaliadwy i'r Llyfrgell Genedlaethol a fydd yn diogelu'r gweithlu presennol ac yn caniatáu i'r llyfrgell ehangu ei gwaith hanfodol ar gyfer y dyfodol. 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

25 

28 

53 

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant 1 Rebecca Evans (Gwyr)  

Dileu popeth a rhoi yn ei le: 

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n cynnal ymgynghoriad a bod Llywodraeth Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i asesu pob opsiwn posibl. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

28 

16 

53 

Derbyniwyd gwelliant 1. 

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd gwelliant 2 a gyflwynwyd i'r cynnig. 

Gwelliant 3 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)  

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn nodi'r dystiolaeth awdurdodol a ddarparwyd yn yradolygiad teilwredig a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru nad yw'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael y lefel o gyllid sydd ei hangen arni ar hyn o bryd i ddarparu ei gwasanaethau craidd. 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru:Adolygiad Teilwredig oLyfrgell Genedlaethol Cymru 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

25 

28 

53 

Gwrthodwyd gwelliant 3. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: 

NDM7580 Sian Gwenllian (Arfon)  

Cynnig bod y Senedd: 

Yn nodi bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrthi’n cynnal ymgynghoriad a bod Llywodraeth Cymru’n parhau mewn trafodaeth barhaus â nhw i asesu pob opsiwn posibl. 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

37 

14 

53 

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. 

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod pleidleisio

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 17.03 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio. 

Dechreuodd yr eitem am 17.07.

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.11.

NDM7577 Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)  

Pam nad ydym yn caru ieithoedd rhyngwladol? 

Sylwadau ar ddysgu ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru a rôl y prosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern. 

</AI10>

<AI11>

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 17.36

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 14.30, Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2021

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>